Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Hydref 2020
Amser:
09.45 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6488
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Russell George AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Vikki Howells AS Helen Mary Jones AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Sioned Pearce, Prifysgol Caerdydd Professor Ewart Keep, Prifysgol Rhydychen Laura-Jane Rawlings, Cyflogaeth Leuenctid y DU Cerys Furlong, Chwarae Teg Ruth Coombs, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Dr Alison Parken, Prifysgol Caerdydd Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS
1.2 Nid oedd dim dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch: Llythyr Cylch Gwaith Trafnidiaeth Cymru
2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3 COVID-19: Adferiad - Diweithdra ymhlith pobl ifanc
3.1 Atebodd Dr Sioned Pearce, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yr Athro Ewart Keep, Adran Addysg Prifysgol Rhydychen a Laura-Jane Rawlings, Prif Swyddog Gweithredol Youth Employment UK gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
4 COVID-19: Adferiad i bawb
4.1 Atebodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, Dr Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
5 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)
5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm. Roedd yn fodlon bod y Bil yn gwneud darpariaeth at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a bod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29, ac nid oedd yn gweld dim rheswm dros wrthwynebu bod y Senedd yn cytuno i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Byddai adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm yn cael ei osod erbyn y terfyn amser, sef 5 Tachwedd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
7 Adroddiad drafft: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft
8 Preifat
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
8.2 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith: Hydref 2020